Pryd

Chwefror 20, 2026 09:00 — Chwefror 20, 2026 12:00

Ble

Nyth, Fran Wen

Nyth, Garth Rd, Bangor LL57 2RW

Trefnydd

Gogledd Creadigol



Tocynnau
Cychwyn Jam Creadigol cyntaf y Gogledd Creadigol!

Ydych chi erioed wedi meddwl am greu gêm neu ffilm newydd?

Beth os byddech chi’n cael eich herio i gael rhywbeth yn barod i’w ddangos i gynulleidfa mewn 24 awr, gyda gwobr o hyd at £5,000 i’w gipio?

Dewch i Jamio! 

Gan ddechrau ar yr 20fed o Chwefror gyda chyflwyniad i be ‘di Jam, bydd cyfle i chi glywed a chael eich ysbrydoli gan bobl o ddiwydiant, i gael eich tîm yn ei le, a gofyn cwestiynau. 

Mae’r gwaith go iawn yn dechrau ar y 26ain o Chwefror, lle byddwn yn datgelu pwnc a rheolau’r digwyddiad YN FYW yn M-SParc ac ar ein gwefan am 9am. Yna bydd gennych tan 6pm ar y 27ain o Chwefror i greu eich gêm neu ffilm, yn barod i’w chyflwyno yn ein digwyddiad pitsio.

Y Gystadleuaeth (26-27 Chwefror) Darllen Mwy 

Digwyddiad 1: Cyflwyniad a Rhwydweithio

Lleoliad: Nyth Fran Wen

Dyddiad: Dydd Gwener, 20fed o Chwefror

Amser Gweithgaredd
09:00 Cyrraedd a Chofrestru: Cofrestru cyfranogwyr.
09:30 Agoriad a Diwydiant: Cyflwyniad i ‘Jamio’ a sgyrsiau gan arbenigwyr y diwydiant.
11:00 Ffurfio Timau: Cyfle i ddod o hyd i dîm a chefnogaeth i rwydweithio.

Dolen Cofrestru: Ffurflen Google